Cyngor Tref yr Wyddgrug
Bydd Canolfan Bryn y Beili yn cael ei gynnal at y dyfodol trwy ddefnyddio’r elw a wnaed o ganlyniad i Elusen Faerol yr Wyddgrug 2017, ynghyd â’r holl incwm a gynhyrchwyd trwy rentu am gyfnod o dair blynedd, y fflat ddwylofft newydd a gafodd ei hatgyweirio.
Mae swyddogion a chynghorwyr Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi neilltuo peth wmbredd o amser ac adnoddau i gefnogi Prosiect Bryn y Beili ers dros ddegawd bellach a byddant yn dal ati i wneud hynny.
Gwefan: moldtowncouncil.org.uk/Mold-TC
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr pwrpasol mwyaf mewn perthynas â threftadaeth yn y DU.
Gwefan: heritagefund.org.uk
Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Cafodd y gronfa hon ei chefnogi trwy gyfrwng Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a arianwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), a gan Lywodraeth Cymru.
Cronfeydd LEADER– Cadwyn Clwyd
Bydd LEADER ‘Thema 1’ yn cefnogi’r prosiectau hynny sy’n ymchwilio i ffyrdd newydd o ddatblygu, hybu neu fanteisio’n gynaliadwy ar y gwerth masnachol ac adloniadol sydd gan adnoddau naturiol a diwylliannol Gogledd-ddwyrain Cymru.
Gwefan: cadwynclwyd.co.uk
Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Rhaglen cyllid grant sy’n rhoi cymorth i gymunedau sy’n byw o fewn pum milltir i rai gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neilltuol neu safleoedd tirlenwi, er mwyn iddynt weithredu dros eu hamgylchedd lleol.
Gwefan: Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi - CGGC (wcva.cymru)
Ffrindiau Bryn y Beili
Sefydliad elusennol yw hwn sy’n cydweithio â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug, a chyrff eraill a llu o wirfoddolwyr gyda’r bwriad o wella’r parc – er mwyn i bawb ei fwynhau, trwy ddarparu cyfeluesterau ar gyfer adloniant a hamddena, ond hefyd trwy barchu’r bywyd gwyllt a’r dreftadaeth. Fe wnaethant lwyddo i gael grant o £3 mil gan gronfa Lawnt Fowlio Bryn Gwalia gyda’r bwriad o gau’r ‘bwlch cyllid cyfatebol’ ar gyfer ‘Project Plus’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Gwefan: baileyhillcastle.wordpress.com
Cyngor Sir y Fflint
Mae’r awdurdod lleol, Cyngor Sir y Fflint, wedi neilltuo amser sylweddol o ran swyddogion ac adnoddau, i Brosiect Bryn y Beili a hefyd wedi ariannu gwaith ailddatblygu a gwella’r Lle Chwarae newydd ar Fryn y Beili.
Gwefan: siryfflint.gov.uk

Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf.
Mae Hamdden a Llyfrgelloedd Aura wedi cyfrannu at Brosiect Bryn y Beili trwy bennu swyddog ar ei gyfer. Sophie Fish yw’r Rheolwr Amgueddfeydd, Diwylliant a Threftadaeth ar gyfer Sir y Fflint a hi yw’r Rheolwr Prosiect arweiniol dros Brosiect Bryn y Beili. Mae hi wedi neilltuo oriau lawer i sicrhau cyllid a’i roi ar waith, rheoli’r cyllid ar gyfer y prosiect a chydweithio gyda Harrison Design Development a CPAT.
Gwefan: aura.cymru/
Cyngor Tref y Wyddgrug,
Uned 10, Canolfan Daniel Owen,
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1AP
01352 751819
baileyhill@moldtowncouncil.org.uk
2026 Bryn y Beili — gwefan gan WiSS
Swyddog Prosiect Adfywio Busnes
Cyngor Tref y Wyddgrug, Neuadd y Dref
Ffordd yr Iarll, Mold, CH7 1AB
01352 872418
baileyhill@moldtowncouncil.org.uk
2026 Bryn y Beili — gwefan gan WiSS
