Ffurfiwyd Bryn y Beili yn ystod oes yr iâ dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl; cyfnod hanes sydd fel arfer yn cael ei ystyried fel diwedd Oes y Cerrig. Mae rhywfaint o dystiolaeth o aneddiadau dynol yn ardal yr Wyddgrug yn ystod Oes yr Efydd (a ddechreuodd tua 1700 CC). Cafwyd rhai arteffactau hen iawn yn ardal yr Wyddgrug, gan gynnwys y Fantell Aur enwog a gleiniau gwefr, yn dyddio o 1900-1600 CC, a ddarganfuwyd yn 1833. Sefydlwyd caerau mawr yn Oes yr Haearn (tua 1200 CC ymlaen) ar y tir uchel o gwmpas yr Wyddgrug (ar Fryniau Clwyd) ac yn Nyffryn Alun, ond nid hyd y gwyddom ar Fryn y Beili.
Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid Brydain ym 43 OC a’r gred yw y daethant i Gymru erbyn 48 OC. Yno cawsant lwythau Celtaidd yn siarad Brythoneg. Y Deceangli oedd yn byw yn ac yn rheoli’r hyn a alwn heddiw’n Ogledd Cymru ac, yn ôl pob tebyg, fe fyddai’r Bryn yn eu tiriogaeth hwy. Yr Ordofigiaid oedd yn byw ar y tiroedd tua’r de (Canolbarth Cymru heddiw).
Yn ystod eu goresgyniad milwrol maith, bu’r Rhufeiniaid yn cloddio’n helaeth i’r gogledd ac i’r de o’r Wyddgrug. Aeth y Rhufeiniaid o Gymru o’r diwedd tua’r flwyddyn 383. Hyd yma ni chafwyd unrhyw olion Rhufeinig yn yr Wyddgrug ond mae ‘Tour of Wales’ enwog Thomas Pennant (a gyhoeddwyd yn niwedd y ddeunawfed ganrif) yn sôn am gael hyd i ddarn arian Rhufeinig (yr Ymerawdwr Vespasian, 69-78 OC) ar Fryn y Beili.
Yn y cyfnodau ôl-Rufeinig a Chanoloesol cynnar, ymddangosodd teyrnasoedd Gwynedd a Phowys. I’r dwyrain, yr ochr draw i Glawdd Wad a Chlawdd Offa (tua’r 8fed ganrif), daeth Mersia’n rhanbarth Sacsonaidd mawr a chryf yn Lloegr.
Erbyn yr 11eg ganrif ddiweddar, roedd y rhan hon o Ogledd Cymru dan reolaeth teyrnas ganoloesol Powys, ond roedd hefyd yn agos at rannau mwyaf dwyreiniol teyrnas Gwynedd – ac fe gyfunodd y ddwy i amddiffyn y ffin rhwng Powys a Mersia. Yn y pen draw, daeth Gruffydd ap Llywelyn i reoli’r ddwy, a mwy, sef Cymru gyfan mewn gwirionedd am 7 mlynedd (1055-1063). Ar ôl iddo farw, ymosododd Mersia fwy ar Gymru.
Yna penderfynodd y Normaniaid, yn awyddus i ‘ehangu’ allan o Ffrainc, ymosod ar Loegr Sacsonaidd, gan oresgyn de Lloegr ym mrwydr Hastings yn 1066. Caiff ei ddweud yn aml y cafodd Lloegr ei ‘gorchfygu mewn diwrnod’ ond, mewn gwirionedd, gwrthwynebodd rhanbarthau Eingl-Sacsonaidd Lloegr y Normaniaid (weithiau gyda chymorth y Cymry). Fodd bynnag, roedd y Normaniaid yn filain, ac roedd yr ‘erlid’ dinistriol iawn ar ogledd Lloegr (1069-70) – lladdwyd rhyw 100,000 o bobl rhwng Caer ac arfordir Cleveland – yn rhybudd garw i bawb.
| Yr 8fed Ganrif | Codi Clawdd Wad tua milltir o’r Bryn – rhwystr ffisegol mawr, gyda Chlawdd Offa gerllaw – rhwng y Cymry a’r Saeson oedd byth a hefyd yn rhyfela. |
| 1055-1056 | Gruffydd ap Llywelyn yn rheoli Cymru gyfan am 7 mlynedd; ar ôl ei farwolaeth daw Cymru dan bwysau cynyddol arglwyddi’r Mers i’r dwyrain. Mae’r Bryn yn sefyll yng nghwmwd Ystrad Alun, ar yr ymyl gogleddol teyrnas Powys. |
| 1066 | Gwilym Goncwerwr yn croesi’r Sianel ac, ar ôl ennill Brwydr Hastings a threchu Harold, daw’n Frenin Lloegr a symud tua’r gogledd gyda grym mawr a chodi llawer o gestyll./td> |
| 1086 | Nid yw’r Wyddgrug yn ymddangos yn Llyfr Dydd y Farn ond mae tyddynnod lleol fel Croesesgob, Broncoed a Gwysanau. |
| tua 1086 -1128 | Y Normaniaid, wrth symud i ororau Cymru, yn sefydlu Tomen Normanaidd a Chastel Beili a threfgordd newydd yr Wyddgrug. |
| 1101 | Iarll Hugh d’Avranches yn rhoi ystadau, gan gynnwys Bryn y Beili, i Hugh Fitz Norman, Barwn yr Wyddgrug a Phenarlâg. |
| 1135 | |
| 1146 | Owain Gwynedd yn cipio Castell yr Wyddgrug. |
| 1156 | Robert I yn cipio Castell yr Wyddgrug |
| 1199 | Llewelyn ap Iorwerth yn cipio’r castell a’i ddal hyd ei farwolaeth yn 1240. |
| 1241 | Dafydd ap Owain yn dychwelyd y castell i Harri II. Trwsio’r castell am £40 ac mae’n dod yn ‘Gadarnle Brenhinol’. |
| 1245 | Dafydd ap Llewelyn yn cipio’r castell, ond yn cael ei orchfygu yn 1246 gan Roger de Munthaut II. |
| 1256 | Llewelyn ap Gruffudd yn cipio ac yn dinistrio’r castell. |
| 1277 – 1284 | Ymgyrchoedd Iorwerth I yn erbyn Llewelyn ap Gruffydd yn dod i ben gyda Statud Rhuddlan 1284. Yn ystod y cyfnod hwn mae Edward I yn datblygu cestyll mawr iawn yn y Fflint, Caernarfon, Conwy, Rhuddlan, Biwmares a Harlech. |
| 1277 | Trwy Gytundeb Aberconwy, Iorwerth I yn cael Castell Beili’r Wyddgrug yn ôl ac yn gosod Roger de Munthaut III yn yr Wyddgrug. |
| 1282 | Dafydd ap Gruffydd yn cipio Castell yr Wyddgrug (ac mae’n annhebygol yr ailgodwyd y castell fyth ar ôl hynny). |
| 1329 | Ar farwolaeth y Munthaut (Montalt) olaf, trosglwyddodd ystadau Arglwyddiaeth yr Wyddgrug a Phenarlâg i William Montague, Iarll Caersallog cyntaf. |
| 1399 | Gyda dienyddio William de Montacute, Iarll Caersallog, am frad, caiff y tiroedd eu dal gan Goron Lloegr ac, yn 1437, eu trosglwyddo i deulu Stanley, Ieirll Derby sy’n eu dal hyd 1651. |
| 1642 - 1648 | |
| Y 15fed Ganrif | Castell yr Wyddgrug yn dal i weithredu ar ryw lun i’r 15fed ganrif. |
| 1642 i 1648 | Rhyfel Cartref Lloegr yn ymledu i Gymru. Nid oedd yr Wyddgrug dan warchae ond dioddefodd ysgarmesau rhwng cefnogwyr y Senedd a’r Brenin wrth i’r ddwy fyddin fynd drwy’r dref ar eu ffordd i warchaeau yn Rhuthun, Penarlâg neu Gaer. |
| 1729 | Thomas Swymmer Champneys, yn 4 oed, yn etifeddu ystâd oedd yn cynnwys Bryn y Beili. |
| 1778-83 | Thomas Pennant (bonheddwr o Sir y Fflint) yn cyhoeddi ei ‘Tour of Wales’, sy’n cynnwys hanes ymweliad â Bryn y Beili a’r Wyddgrug. Mae’n sôn y darganfuwyd darn aur gyda phen Vespasian (Ymerawdwr Rhufeinig 69-78 OC) yno; a bod “toreth o esgyrn, rhai dynol” ynghyd ag “ychen, defaid, ceffylau, a thyrchod”, a “gweddillion cyrn ceirw ac iyrchod” i’w cael “ar un ochr i’r buarth uchaf”. (Pennant, T – ‘Tour of Wales’ 1778, Rhan 1). |
| 1792 | Plannu coed ar lethrau Bryn y Beili, sy’n noeth gan mwyaf, a chodi clawdd i amgáu’r bryn. Codi bwthyn Gothig hefyd ar yr ochr ddwyreiniol. |
| 1780au-90au | Darlunio ‘Bryn y Castell’ yn yr Wyddgrug, gan lawer o dirlunwyr – Moses Griffiths, Warwick Smith, John Ingelby, Edward Pugh. |
| 1801 | Gwerthu ystadau Swymmer Champneys trwy arwerthiant i dalu dyledion. Ni chaiff Bryn y Beili ei werthu. |
| 1809 | Yr Arglwydd Mostyn yn prynu Bryn y Beili am £15,000; roedd ei ferch Charlotte wedi priodi Thomas Swymmer Champneys yn 1792. |
| 1828 | Codi Capel Cymraeg y Methodistiaid Wesleaidd ar ymyl de-orllewinol y bryn, ar dir a roddwyd gan Syr Thomas Mostyn, fel ymateb i ymweliadau John Wesley i bregethu yn yr Wyddgrug yn 1750, ‘51, ‘52. |
| 1833 | Hanner milltir i’r dwyrain o’r Bryn, darganfod ‘Mantell Aur yr Wyddgrug’ a gleiniau gwefr (1900-1600 CC) mewn twmpath bach. |
| 1830 - 1870 |
| 1800au | Cymdeithasau Llesiant yr Wyddgrug. |
| 1848 - 49 | |
| 1851 | |
| 1868 - 1870 | |
| 1871 | Breinio’r tir a brynwyd yn enw Bwrdd Lleol yr Wyddgrug a chynnal Cyngerdd Agoriadol Mawreddog. (Disodlwyd y Bwrdd Lleol wedyn gan Gyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug pan ffurfiwyd hwnnw yn 1894.) |
| 1871 | Ymweliad Edward Kemp. Y cyngor lleol yn comisiynu’r cynlluniwr gerddi adnabyddus i roi cyngor ar wella Bryn y Beili fel parc cyhoeddus. |
| 1873 | Cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ar Fryn y Beili, a’i mynychu gan William Ewart Gladstone, y Prif Weinidog ar y pryd hynny. |
| 1902 | Plannu Derwen y Coroni (ar adeg coroni Iorwerth VII) gan Mrs Beresford. |
| 1920 | CDT yr Wyddgrug yn cynllunio’r parc yn ffurfiol, sefydlu cwrt tennis ar y beili allanol, a chodi’r adwyau presennol. |
| 1922 | Codi cylch cerrig yr Orsedd ar y Bryn; a pheth gwrthdystio yn erbyn ychwanegu’r nodwedd newydd at safle hanesyddol. |
| 1923 | Cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn yr Wyddgrug, gyda defodau ar Fryn y Beili. |
| 1925 | Codi’r Senotaff. |
| 1940? | Codi uned Ysbyty Neilltuo ar safle presennol y buarth chwarae. |
| 1984 | Darganfod rhannau o ysgerbydau dynol ‘hen’, dan wrych (maent bellach yng ngofal Aura Leisure and Libraries Ltd). |
| 2007 | |
| 2010 | Cynnal Gŵyl Bryn y Beili am y tro cyntaf. |
| 2012 | |
| 2013 | Cyngor Tref yr Wyddgrug yn prydlesu Porthdy’r Ceidwad gan Gyngor Sir y Fflint. |
| 2018 | Dyfarnu arian y Loteri ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug a Ffrindiau Bryn y Beili i ddatblygu Bryn y Beili er lles tref yr Wyddgrug a hybu twristiaeth i’r dref. |
| 2018-19 | Ffurfio elusen gofrestredig newydd ‘Friends of Bailey Hill / Ffrindiau Bryn y Beili’ – a’r Ffrindiau’n cadw cyswllt agos â’r cynghorau lleol ynghylch Prosiect sylweddol £1.3M i wella’r parc. |
| 2020 | Gwaith adeiladu yn dechrau i wella’r parc a’i gyfleusterau’n sylweddol – prosiect £1.3M (wedi ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chymhorthwyr grantiau eraill). |