Safle castell Normanaidd canoloesol o’r 11eg ganrif yw Bryn y Beili – lle arbennig sydd bellach yn heneb restredig. Fe’i lleolir yn ardal gadwraeth tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug, yng ngogledd Cymru.
Mae’r Bryn wedi chwarae rhan bwysig yn hanes a datblygiad yr Wyddgrug, y dref a ddatblygodd gerllaw. Yn wir, credir mai tarddiad yr enw ‘Mold’ yw Mont Haut (Bryn Uchel), sef enw teuluol y barwn Normanaidd a adeiladodd y castell.
Mae pwysigrwydd hanesyddol arwyddocaol i’r safle ei hun. Roedd Castell yr Wyddgrug yn gaer sylweddol, a gafodd ei chipio a’i hailgipio lawer gwaith. Dyma lle bu cyfres o frwydrau gwaedlyd rhwng arglwyddi Normanaidd a thywysogion Cymru, yn enwedig Owain Gwynedd a Llewelyn ab Iorwerth yn y 12fed ganrif a Dafydd ap Gruffydd ganrif yn ddiweddarach. Achoswyd niwed i’r safle’n rheolaidd, ond fe’i hatgyweiriwyd bob amser. Hyd at ddiwedd y 14eg ganrif hynny yw, a dyna pryd y bu i bwysigrwydd y castell ddirywio…
Trist dweud y daeth y safle’n dir diffaith wedi hynny, hyd nes iddo gael ei amgau yn rhan olaf y 18fed ganrif. Trwy gydol yr adeg hon, parhawyd i ddefnyddio’r safle i gynnal ffeiriau a dathliadau – rhywbeth a fu’n mynd rhagddo ers canrifoedd cyn hynny yn wir.
Ym 1870 aeth pobl yr Wyddgrug ati i gasglu arian er mwyn prynu’r safle gan y teulu Mostyn – a gytunodd i’w werthu am bris disgownt o £400. A dan ofal nifer o gynghorau lleol olynol, cafodd Bryn y Beili ei ddatblygu’n barc cyhoeddus sydd bellach yn llecyn glas pwysig a llesol yng nghanol y dref.
Pan oedd prosiect adfywio 2020 ar fynd daethpwyd o hyd i greiriau archeolegol newydd a bu hynny’n fodd i wir fywiogi’r safle. Er enghraifft, mae’r dystiolaeth ddiweddar yn awgrymu mai adeiledd pren oedd Castell yr Wyddgrug mae’n debyg; fodd bynnag roedd waliau ac adeiladau cerrig sylweddol ar y safle yn y 12fed-13eg ganrif. Mae ein gwers hanes byw yn parhau i fynd o nerth i nerth!