Croeso i’ch Bryn y Beili chi – safle hanesyddol sydd â rhywbeth i’w gynnig i bawb.
O goetir godidog a lleoedd chwarae naturiol a hudol hyd at hanes a chyfleoedd rhyfeddol ym mhobman, mae Bryn y Beili yn drysor sydd o fewn cyrraedd pawb yng nghanol yr Wyddgrug.
Bryn y Beili yw enw’r castell Mwnt a Beili canoloesol a safai ar un adeg yng nghanol y dref farchnad draddodiadol hon. Erbyn hyn mae Bryn y Beili yn barc cyhoeddus hyfryd sy’n llawn o leoedd gwahanol i’w harchwilio. Gallwch grwydro ymysg adfeilion y castell, syllu ar Gylch yr Orsedd, ymgolli yn nhawelwch yr ardal a mwynhau’r golygfeydd godidog – y lle perffaith i dreulio amser yng nghwmni’ch ffrindiau a’ch teulu.
Mae Bryn y Beili yn ardal sy’n llawn dirgelwch a rhyfeddod, hanes ac anrhaith, ac mae hi yno ichi ei harchwilio…