Amdanom ni

Er mwyn sicrhau bod safle Bryn y Beili’n cael ei gynnal a’i gadw a’i ddatblygu nawr ac, yn y dyfodol, ar gyfer y gymuned leol a’r ymwelwyr – mae Bwrdd Partneriaeth Deiran wedi cael ei sefydlu rhwng Cyngor Sir y Fflint (yr Awdurdod Lleol), Cyngor Tref yr Wyddgrug (Cyngor y Dref) a Chyfeillion Bryn y Beili (elusen leol) er mwyn goruchwylio’r prosiect.

Fe wnaeth pob un o’r tri arwyddo Memorandwm Dealltwriaeth teiran sy’n eu hymrwymo i wneud eu gorau glas i wella a manteisio i’r eithaf ar y parc. Mae gan bob partner dasgau allweddol i fynd i’r afael â hwy, gyda’r bwriad o sicrhau y bydd y prosiect yn gynaliadwy.

Amdanom ni

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir y Fflint yw perchennog Bryn y Beili, a’r Cyngor hefyd sy’n ei reoli a’i gynnal a’i gadw. Mae’r lle chwarae’n cael ei gynnal a’i gadw gan y Cyngor trwy gyfrwng Gwasanaeth Hamdden a Llyffrgelloedd Aura. Ar ben hynny mae cyllid ychwanegol wedi cael ei glustnodi i ail-leoli a gosod lle chwarae newydd ar Fryn y Beili, yn unol â phrosiect “Dadlennu Bryn y Beili’r Wyddgrug.”

Gan mai’r Cyngor yw perchennog y safle ef hefyd yw’r prif bartner mewn perthynas â’r cyllid a sicrhawyd ar gyfer y prosiect cychwynnol. Cafodd ailddatblygiad ffisegol y safle ei reoli gan y prosiect hwn. Bu Rheolwr yr Amgueddfeydd, Treftadaeth a Diwylliant ar gyfer Gwasanaeth Hamdden a Llyffrgelloedd Aura yn chware rhan weithredol mewn gorchwylio’r dasg o weinyddu a sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect.

Cyngor Tref yr Wyddgrug

Uchelgais Cyngor Tref yr Wyddgrug ers tro byd fu adfer Bryn y Beili er mwyn iddo fod yn barc cyhoeddus a ddefnyddir yn helaeth. Bydd y parc yn gallu dadlennu hanes cythryblus yr Wyddgrug, yr hanes sydd iddi, fel tref wedi’i lleoli ar ororau Cymru.

Cynhaliwyd arolygon cyhoeddus a ddaeth i’r casgliad hwn; roedd galw’n bodoli, yn lleol, am wneud gwelliannau sylweddol i Fryn y Beili ac fe gydnabuwyd bod y safle’n gaffaeliad i’r Wyddgrug. Yn 2008, dechreuodd Cyngor y Dref fynd ati, gam wrth gam, i wneud y gwelliannau hyn. Yn 2010, dechreuwyd darparu taith gerdded dywysedig a gwnaethpwyd rhywfaint o waith dehongli, a chafodd digwyddiad cyntaf Gŵyl Bryn y Beili ei gynnal.

Yn 2013, roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gallu prydlesu Porthdy’r Ceidwad gan Gyngor Sir y Fflint, o dan gytundeb 25 mlynedd. Fe’i gosodwyd ar rent, yn gartref teuluol, a chafodd yr incwm ei ddefnyddio, ar sail cyllid cyfatebol, i wneud rhagor o welliannau. Yn eu plith roedd dau gam rhaglen ddatblygu a chyflawni Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Erbyn hyn mae llawr gwaelod Porthdy’r Ceidwad yn lle cymunedol amlbwrpas bendigedig - Canolfan Bryn y Beili - â fflat breswyl ddwylofft uwchben. Mae’r incwm rhent yn cyfrannu at gadw’r adeilad yn gynaliadwy.

Fe wnaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri ariannu Swyddog Datblygu Prosiect Bryn y Beili sy’n cael ei gyflogi a’i reoli gan Gyngor Tref yr Wyddgrug. Y Swyddog sy’n gyfrifol am benodi a rheoli gwirfoddolwyr ac am gynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau ar safle Bryn y Beili. Bu’r prosiect yn llwyddiant ac felly penderfynwyd cyfuno swydd Swyddog Bryn y Beili â swydd y Swyddog Adfywio Busnes. Mae hyn yn profi bod Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi ymrwymo i barhad a datblygiad ein safle hanesyddol lleol, Bryn y Beili.

Ffrindiau Bryn y Beili’ (Cyfeirnod 1179312)

Cafodd ‘Ffrindiau Bryn y Beili’ Bryn y Beili ei sefydlu ym mis Chwefror 2018, yn elusen a Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) er mwyn cynorthwyo i ategu’r ymdrechion lleol (sy’n mynd rhagddynt ers 2011) i sicrhau bod Bryn y Beili’n cael ei wella a’i warchod yn sylweddol. Erbyn hyn mae gan yr elusen fwy na 100 o aelodau.

Ei amcanion elusennol yw:

  • Hybu ar gyfer trigolion yr Wyddgrug, Sir y Fflint a’r ardal oddi amgylch, ddarpariaeth i’r cyhoedd allu hamddena neu dreulio’u hamser hamdden yn gwneud gweithgareddau eraill ar safle Bryn y Beili – er lles cymdeithas a gyda’r bwriad o wella cyflwr bywydau’r trigolion a’r ymwelwyr.
  • Hybu er lles y cyhoedd, faes cadwraeth, diogelu a gwella amgylchedd ffisegol a naturiol Bryn y Beili trwy hyrwyddo amrywiaeth fiolegol a pharchu hanes y safle, ei arweddion tirwedd arbennig a’r statws sydd iddo fel Heneb Restredig.
  • Hyrwyddo addysg y cyhoedd - trwy hybu’r cyfleoedd ar safle Bryn y Beili ar gyfer cael gwybodaeth am dreftadaeth y parc cyhoeddus a’r amgylchedd naturiol trwy gyfrwng rhaglenni hyfforddi ac addysgol a strwythur iddynt.

Sefydlu elusen newydd, FoBH/FfByB ym mis Chwefror 2018, er mwyn galluogi’r bartneriaeth deiran i wneud cais am a sicrhau Cronfeydd Dreftadaeth y Loteri (oddeutu £973 mil) i wella’r parc. Fe wnaeth cynrychiolwyr yr elusen neilltuo oriau lawer i gymryd rhan yn nhrafodaethau’r bartneriaeth deiran gyda’r ddau bartner awdurdod lleol a gydag arbenigwyr lleol ynghylch beth fyddai’r ffordd orau o gaboli a chyflawni’r Prosiect Plus £1.3 miliwn drwyddo draw, er mwyn gwella’r parc. Fe wnaethant hyn try gynnig cyngor a syniadau eang eu cwmpas. Llwyddodd hefyd i godi arian ychwanegol, yn gyllid cyfatebol, i roi sylfaen gadarn i’r gwaith gwella.

Bydd y Cyfeillion yn dal ati i fod yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Deiran sy’n goruchwylio’r Prosiect drwyddo draw, a ‘Phrosiect Plus Cronfeydd Dreftadaeth y Loteri’, a roddir ar waith fesul cam. Mae ef wedi ymrwymo i chwarae rhan weithredol mewn cynnal a chadw’r gwelyau blodau a’r prysglwyni a ailwampiwyd (Gwelyau 18 i 22) ar y Beili Mewnol, ynghyd â gosod rhagor o flychau i adar ac ystlumod (yn unol â’r cyngor a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru). Bydd yn cynnal a chadw’r arweddion a osodwyd ganddo – e.e. yr Arddangosfa Cennin Pedr Treftadaeth. Gan ei fod wedi adolygu rhestr blannu 1871 Edward Kemp a derbyn sylwadau barn Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, bydd ef hefyd yn ychwanegu prysglwyn blodeuol peraroglus neu ddau – o’r math y byddai Kemp wedi eu hoffi – ar hyd yr amderfyn dwyreiniol. Rhaid mynd i’r afael hefyd ag ambell welliant bach ychwanegol i lwybr yr amderfyn a’u cwblhau yn eu tro.

  1. baileyhillcastle.wordpress.com
  2. facebook.com/Friends-of-Bailey-Hill