Parc bychan bioamrywiaethol yw Bryn y Beili. Trwy reoli’r cynefin yn dda gellir hybu mwy fyth ar y fioamrywiaeth ond rhaid hefyd parchu’r Heneb Restredig waelodol a’r cyfreithiau sy’n gwarchod coed mewn Ardal Gadwraeth.
FFLORA – cofiwch gadw’ch llygaid ar agor am goed aeddfed fel ffawydd, castanwydd pêr, pinwydd, sycamorwydd, yw, derw, palalwyf ac ynn. Yn yr isdyfiant mae coed ifanc yn dechrau ymddangos, yn ogystal â choed cyll, mieri, mafon gwyllt, gweiriau, rhedyn a chlychau’r gog brodorol. Mae’r eiddew ar y coed yn cynnig lloches i adar, ac mae’r ‘lawntiau eiddew’ eang yn y llecynnau mwy cysgodol yn rhoi lloches i greaduriaid eraill. Yn y llecynnau hynny lle mae’r gwair wedi’i dorri a’i docio, a’r mannau garwach hefyd, ceir llawer o weiriau a blodau gwyllt brodorol. Yn y ‘gwelyau’ ffurfiol ceir cymysgedd o blanhigion addurnol a brodorol. Mae eu blodau, egroes a hadau’n golygu bod yr adar a'r pryfed yn cael rhagor o neithdar a bwyd trwy gydol y flwyddyn. Ar y mwnt hefyd fe blannwyd briallu, fioledau a blodau gwyllt brodorol. Yn y parc ehangach, gosodwyd planhigion brodorol fel rhedyn, eirlysiau, cennin pedr gwyllt, saffrwm a llysiau’r ddidol rhywogaeth, ynghyd ag arddangosfa o ‘Gennin Pedr Treftadaeth’ cyn y 1940au o dan ‘Dderwen y Coroni’.
FFAWNA – cofiwch gadw’ch llygaid ar agor am yr adar hyn – cnocellod brith mwyaf, delorion y cnau, dringwr bach, gwybedog mannog, titwod tomos glas, drywod – ac adar y coetir fel tylluanod brych. Mae’r tyllau a’r craciau yn y coed hŷn yn gartrefi gwych ar gyfer adar, a chafodd llawer o flychau adar newydd eu gosod ar y safle. Yn y coed talach ceir nythod gwiwerod llwyd, ynghyd â chlwydfan i ystlumod. Pan fo hi’n nosi bydd corystlumod, corystlumod lleiaf meinllais, ac ystlumod mawr yn hedfan dros y safle, a chafodd blychau ystlumod eu gosod yno. Trwy gydol y flwyddyn, ceir cyfle i weld cacwn ar unrhyw blanhigion sydd yn eu blodau.Yr amrywiaeth o rywogaethau a genynnau, a pha mor helaeth ydynt, mewn unrhyw gynefin - dyna, yn syml, beth yw bioamrywiaeth. Mae gwarchod a hybu bioamrywiaeth y blaned yn cynorthwyo i gynnal ansawdd bywyd pobl ar y Ddaear ynghyd â’u cadwyni bwyd a chyflenwi. Rydym ni, fodau dynol, yn defnyddio degau o filoedd o wahanol blanhigion ac anifeiliaid i gynnal ein bywydau. Yn ôl hanes dynoliaeth mae’n beryglus inni orddibynnu ar unrhyw un planhigyn penodol, ac mae planhigion prin a mathau o blanhigion, yn aml iawn, yn ‘dod i’r adwy’.
Trosolwg
Mae Bryn y Beili eisoes yn fioamrywiaethol iawn. Rhaid cymryd camau gweithredu a phenderfyniadau tringar er mwyn gwarchod yr hyn sydd yno a’i gynyddu yn briodol. Wrth reoli’r cynefin sydd yno, rhaid inni wastad ystyried y ffaith hon; sef bod y cynefin yn cydblethu â Heneb Restredig (SAM), a leolir mewn parc hynafol, a hyn i gyd mewn Ardal Gadwraeth (o fewn yr hon y mae coed yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol).
Castell wedi mynd a’i ben iddo, o’r 11eg/12fed Ganrif, a godwyd ar fryncyn naturiol wedi Oes yr Iâ, y gwnaeth Arglwydd Mostyn blannu peth wmbredd o blanhigion arno tua diwedd y 18fed Ganrif. Coetir planhigfa a pharc preifat ydoedd yn y bôn, ac roedd gan y cyhoedd hawl i fynd yno trwy ddilyn llwybr neu ddau, cyn belled â lawnt fowlio, ac un arall a arweiniai at ben uchaf y mwnt. Fe brynwyd y safle gan Fwrdd Lleol yr Wyddgrug yn 1870: cafodd Edward Kemp (rheolwr parc a thirluniwr enwog) ei gomisiynu i roi cyngor ynghylch a oedd modd defnyddio rhagor arno ar gyfer adloniant. Fe aeth ati i lunio rhestr blannu newydd yn 1871 ond nid oes sicrwydd i ba raddau, os bu unrhyw rai, y bwriwyd ymlaen â’i syniadau. Yn y 1920au fe adeiladwyd cyrtiau tenis a gosodwyd rhagor o blanhigion addurnol. Credir, â rhywfaint o dystiolaeth, y daliwyd ati i ddefnyddio arddulliau ffurfiol er mwyn arddangos blodau ger y fynedfa. Erbyn y 1970au roedd y parc yn cael ei ddefnyddio llai, aeth rhannau ohono i gyflwr gwael, ac ers hynny ni chafodd ei gynnal a’i gadw mewn modd mor ddwys.
O ganlyniad i’r gwaith ailwampio a wnaed yn 2020 trwy Brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fe sicrhawyd bod y rhan fwyaf o’r parc yn cyrraedd y safon unwaith yn rhagor – o ran ei ddyluniad ar gyfer ei ddibenion nawr, a’r rhai newydd hefyd. At hynny roedd y parc yn fwy agored ac o fewn cyrraedd pawb. Bydd y Prosiect a’r gwaith cysylltiedig a wnaethpwyd gan FfByB a’r gwirfoddolwyr eraill yn y blynyddoedd diweddar, yn hybu bioamrywiaeth yn y parc. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwelliannau chwaethus sylweddol wedi cael eu gwneud.
Yn 2020 fe gyflwynodd Cyngor Sir y Fflint gais i Cadwch Gymru’n Daclus am statws Baner Werdd ar gyfer y parc sydd wedi’i wella. Mae’r broses asesu ffurfiol yn cynnwys asesiad o fioamrywiaeth y parc.
Lleolir y parc ar gyrion gogledd orllewinol yr Wyddgrug, yn Nyffryn Alun, yn agos at afon, lle mae cymysgedd o erddi â choed aeddfed, gerddi mynwent wedi tyfu’n wyllt, a mannau glaswelltog agored o’i amgylch. Mae gwella’r cynefin, yn y parc ac oddi amgylch iddo, er mwyn sicrhau bod gan y cynefin gysylltiad da â choridor yr afon a’r llecynnau coediog helaethach yn y cyffiniau, yn fater i’w fawr ddymuno a dylid ei hybu.
COED - ledled y parc fe geir llawer o goed aeddfed fel ffawydd, castanwydd pêr, pinwydd, sycamorwydd, yw (nid oes yr un ohonynt yn wir blanhigion brodorol o’r ardal leol), ac ambell dderwen a phalalwyfen. Mae eiddew wedi tyfu’n drwch ar rai ohonynt. Mae yno hefyd nifer fawr o ynn (yn 2020) - ond mae gwywiad yr onnen yn debygol o effeithio ar frigdwf y coed yn ystod y blynyddoedd nesaf. Felly mae angen mynd ati i wneud gwaith rheoli dyfal ar y coed - er mwyn cynorthwyo i sicrhau olyniaeth a chynhaliaeth y brigdwf (yn y parc ac oddi amgylch iddo). Fel arfer bydd y pren marw’n cael ei gadw ar y safle a gadewir iddo bydru yno gyda’r bwriad o hybu ffyngau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
ISDYFIANT A CHOED LLAI – ceir yno sawl dryslwyn sy’n llawn o hen blanhigion addurnol, celyn hunanheuedig, ambell gollen wedi’i bondocio, dryslwyni’n cynnwys mieri a mafon gwyllt, ynghyd â nifer dda o goed eginblanhigion hunanheuedig o amryw rywogaethau brodorol ac anfrodorol (sydd bellach angen eu meithrin).
FFLORA’R LLAWR – yn y parc ceir llecynnau sy’n llawn gweiriau trech o dan goed aeddfed, rhedyn brodorol yn y mannau coediog, a sawl planhigyn coetir sy’n nodweddiadol o’r rhan hon o Sir y Fflint. Yn eu plith mae clychau’r gog a hesgwellt brodorol. Yn y llecynnau mwy cysgodol mae ‘lawntiau eiddew’ helaeth - sy’n arwedd bwysig ar brydferthwch y parc.
LAWNTIAU - caiff y tyfiant ym mwnt mewnol ac allanol y beili ei dorri’n rheolaidd ac mae hynny’n cynnwys nifer fawr o flodau gwyllt (e.e. meillion gwyn, pys-y-ceirw ac ati). Yn y parc hefyd mae llecynnau sy’n cael eu tocio’n ysgafn a mannau nad ydynt yn cael eu torri o gwbl, sy’n fodd i gynnal gweiriau brodorol ac amrywiaeth aruthrol o flodau gwyllt brodorol.
PLANHIGION ADDURNOL – ceir nifer dda o blanhigion addurnol yn y parc - gan gynnwys coed bach blodeuol/sy’n ffrwytho, coed lelog, celyn, gwyddfid, rhosod prysglwyn, fflamgoed, coed prifet, llawrgeirios, rhoswydd, creigafal, llus yr eira, eirinllys ac erwain. Gyda’i gilydd mae’r rhain yn ffynhonnell ychwanegol o neithdar, hadau, egroes a bwyd a lloches ychwanegol ar gyfer adar a phryfed. Ond mae nifer fawr ohonynt mewn cyflwr gwael - ar wasgar ac mewn trafferthion - ac felly’r bwriad yw cadw rhai ohonynt a gosod planhigion eraill yn lle’r lleill yn ôl yr angen.
Mae’r llawrgeirios a blannwyd ar raddfa fawr yn oes Fictoria/Edward, wedi tyfu dros ardal eang erbyn hyn ac felly credir, at ei gilydd, eu bod yn y lle anghywir. Mae’n dasg anodd rheoli pethau ar SAM lle na fyddai technegau ymwthiol yn dderbyniol y dyddiau hyn. Felly, ar hyn o bryd rhoddir y pwyslais ar ddefnyddio gwirfoddolwyr i docio’r planhigyn cyn ised ag y gallant, yn gydwastad â gwastad y llawr, a gwneud hynny dro ar ôl tro.
FFYNGAU – mae’r pren marw cynyddol yn hybu twf y ffyngau.
ADAR – mae cnocellod brith mwyaf, delorion y cnau, titwod tomos glas, dringwr bach, gwybedog mannog ac adar eraill yn nythu ar y safle. Cafodd rhywfaint o flychau adar eu gwneud ar gyfer y parc gan blant ysgol lleol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac fe aeth FfByB ati i osod 17 o flychau nythu ychwanegol yn 2019, yn unol â’r cyngor gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC). Bydd FfByB yn cadw golwg fanwl ar yr holl flychau ac yn eu trwsio yn ôl yr angen. Maent wedi llwyddo i gyflawni hanner eu nod hirdymor, sef gosod 50 blwch nythu ac/neu bocedi clwydo yn y Parc yn ystod y blynyddoedd nesaf.
MAMALIAID – ceir nythod gwiwerod llwyd ar y coed aeddfed a chlwydfan i ystlumod mewn un goeden aeddfed. Bydd corystlumod, corystlumod lleiaf meinllais ac ystlumod mawr yn hedfan dros y safle. Mae (4) o flychau ystlumod yn cael eu gosod gan FfByB yn sgil y cyngor a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC). Mae’n rhaid ymchwilio rhagor er mwyn cadarnhau a oes mamaliaid bach eraill i’w cael yno ac i ba raddau y mae’r parc yn cael ei ddefnyddio gan famaliaid eraill.
PRYFED AC ANIFEILIAID DI-ASGWRN-CEFN – rydym yn gwybod y nesaf peth i ddim ynghylch i ba raddau y mae’r parc yn cael ei ddefnyddio gan bryfed, chwilod, clêr a gwenyn. Ceir amrywiaeth o rywogaethau o gacwn bron bob amser yn y parc – wrth iddynt archwilio beth bynnag sydd wedi blodeuo. Mae gwestai i wenyn yn mynd i gael eu gosod cyn bo hir, ac mae angen cynnal astudiaethau ac arolygon ar y gwyfynod a’r glöynnod sy’n defnyddio’r parc.
YMLUSGIAID - bydd FfByB yn gosod Gaeafdy yno (pan ddeuir o hyd i safle addas).