Mae gan yr Wyddgrug awyrgylch a marchnadoedd clodfawr, sy’n golygu mai hi yw un o’r trefi mwyaf poblogaidd yng ngogledd Cymru. Fe gynhelir marchnadoedd bywiog ar y stryd bob dydd Mercher a Sadwrn, marchnadoedd da byw ar ddyddiau Llun a Gwener ynghyd â marchnad dan do sydd ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn. Ac ar ben hynny fe gynhelir marchnad y ffermwyr ddwywaith y mis. Felly, mae hi’n deg dweud ein bod ni wrth ein bodd â marchnad yn yr Wyddgrug!
Ymhlith yr amrywiaeth aruthrol o siopau yn y dref mae dewis helaeth o siopau annibynnol, tafarnau bywiog, caffis clyd a bwytai croesawgar. Ac ar ben hynny i gyd mae ganddi theatr arobryn - Theatr Clwyd.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hanes y dref yn Amgueddfa’r Wyddgrug sydd wedi’i lleoli uwchben y Llyfrgell ar Sgwâr Daniel Owen. Byddwch chi hefyd yn gallu cael cipolwg ar atgynhyrchiad o Fantell Aur yr Wyddgrug - crair llawn dirgelwch, ond rhyfeddol, o’r Oes Efydd.
Lleolir yr Wyddgrug yng nghefn gwlad godidog gogledd Cymru, gyda chadwyn drawiadol Bryniau Clwyd i’r dwyrain ac Aber Afon Dyfrdwy i’r gogledd. Felly mae’r dref yn ganolfan wych lle gallwch chi gychwyn arni i archwilio holl drysorau byd natur a’r awyr agored sydd gan Gymru i’w cynnig ichi.